Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2019
Amser:
08.30 -
08.58
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Busnes yr Wythnos Hon
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Bydd yr holl bleidleisio ac eithrio Cyfnod 3 yn digwydd cyn y Ddadl Fer.
Yn dilyn cais Vikki Howells yr wythnos diwethaf i symud ei Dadl Fer, nododd y Rheolwyr Busnes fod Neil Hamilton wedi cytuno i gyfnewid dyddiadau gyda hi, felly bydd ei Ddadl Fer yn cael ei chynnal ddydd Mercher.
Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Reolwyr Busnes fod gan Gyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau ddydd Mercher gyfanswm o 181 o welliannau mewn saith grŵp ac felly rhagwelir y bydd yn cymryd tua 3 i 4 awr. Bydd y Dirprwy Lywydd yn galw egwyl byr o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3, a chaiff alw un arall yn ystod yr eitem pe bai angen
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Rhesymol) (Cymru) bellach wedi’i dynnu’n ôl gan nad oes ei angen. Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd y ddadl Cyfnod 3 nawr yn digwydd ym mis Ionawr, a chytunodd i gadarnhau a yw'r oedi hwn oherwydd yr angen i gael caniatâd Gweinidog y Goron.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2019
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol ac Ardal (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Eiddo Gwag (60 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ddydd Mercher 20 Tachwedd:
NNDM7188 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion;
b) galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol;
c) lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr;
d) annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus;
e) cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddwy ddadl nesaf ar 5 Chwefror ac 11 Mawrth 2020.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr amserlen gyllidebol ddiwygiedig, gyda dyddiad cau diwygiedig o 31 Ionawr i bwyllgorau adrodd, a nodwyd y byddai'r Pwyllgor Cyllid yn penderfynu ddydd Mercher yr wythnos hon a ddylid cyfarfod yn ystod wythnos gyntaf y toriad. Cytunodd y Trefnydd i sicrhau bod Gweinidogion yn ymwybodol o'r angen i fod ar gael yn ystod wythnos gyntaf y tymor ym mis Ionawr ar gyfer craffu gan bwyllgorau.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Trafodwyd y papur gan y Rheolwyr Busnes, a gofynnodd Darren Miller i wrthwynebiad mewn egwyddor Grŵp y Ceidwadwyr i bleidleisio drwy ddirprwy gael ei gofnodi. Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwyr Busnes i edrych ar gyflwyno pleidleisio drwy ddirprwy mewn dau gam. Yn gyntaf, ystyried ei weithredu ar gyfer absenoldeb rhiant yn unig, ac yn ail ystyried y posibilrwydd o'i ymestyn i salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill, ar ôl i Dŷ'r Cyffredin adolygu ei gynllun.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddod â phapur iddynt ar yr opsiynau ar gyfer gweithredu pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant yn unig yn y lle cyntaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes y canllawiau. Nododd Darren Millar fod paragraff 10 yn sôn am gyngor ar wahân i Gynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru a gofynnodd a ellid rhannu hyn gyda'r Rheolwyr Busnes. Cytunodd y Trefnydd i rannu'r cyngor os yn bosibl.